Elastigedd pris y cyflenwad

Mae Elastigedd pris y cyflenwad (Price Elasticity of Supply neu PES yn Saesneg, neu Es) yn fesur sy'n cael ei ddefnyddio mewn economeg i ddangos pa mor ymatebol, neu elastig, yw maint cyflenwad nwydd neu wasanaeth i newid yn ei bris.

Mae'r elastigedd yn cael ei fesur ar ffurf niferol, ac yn cael ei ddiffinio fel canran y newid yn y nifer yr unedau sy'n cael eu cyflenwi wedi'i rannu gyda chanran y newid ym mhris y nwydd.

Pan mae'r cyfernod yn is nag un, caiff cyflenwad y nwydd ei ddisgrifio yn anelastig; pan mae'r cyfernod yn fwy nag un, caiff ei ddisgrifio yn elastig.[1] Mae elastigedd o sero yn dynodi nad yw'r nifer a gyflenwyd yn ymateb i newid pris; mae'r cyflenwad wedi'i 'osod'. Yn aml, nid oes gan y math hynny o nwyddau unrhyw gydran llafur neu nid ydynt yn cael eu cynhyrchu, gan gyfyngu rhagolygon rhediad byr o ehangu. Os yw'r cyfernod yn un ar ei ben, dywedir bod y nwydd yn elastig unedol.

Gall nifer y nwyddau a gyflenwir, yn y tymor byr, fod yn wahanol i'r nifer a gynhyrchir, gan y bydd gan weithgynhyrchwyr stoc y gallant ei gynyddu neu leihau.

  1. Png, Ivan (1999). pp. 129–32.

Developed by StudentB